Monthly Archives: November 2022

Cyfarfod-Meeting 23 November

The next meeting will be on Wednesday 23rd November at 7.30pm in the Long Room Penial Chapel.

Ann Gwyn will be talking about the activities of Cymdeithas Edward Llwyd (see details below.)  It
will cover an interesting assortment of activities.
Also, the Committee will be revealing details of the proposed changes to the Society, for
members to discuss, and details of the Christmas Social which is proposed for 14th December.

Andrew Findon, Ysgrifennydd – Secretary Cymdeithas Hanes Blaenpennal  History Society

About Cymdeithas Edward LlwydCymdeithas Edward Llwyd  is a Welsh medium, natural history organization established by Dafydd Davies, Rhandirmwyn in 1978 for people who appreciate and want to learn more about the natural environment, geography and heritage of their country. It is named after Edward Llwyd (1660 -1709) the Welsh natural historian, geographer, linguist, and antiquary.

Field trips are held most Saturdays in each of three geographic areas: South and Mid Wales, North East Wales and Gwynedd and Anglesey. The field trips are led by people with a specialised and local knowledge of the flora, fauna and history of the area. Welsh learners are always welcome to join the field trips.

The society publishes two journals twice yearly. “Y Cylchlythyr” is a newsletter informing members about the society’s day to day activities and “Y Naturiaethwr” (The Naturalist) includes more substantial articles about various aspects of the natural world.

A linked website “Llên Natur” (Natural Lore) has been set up by the Society to collect, collate and store information from the public about the natural world and all aspects of the environment including weather, folk lore, place names, geology, flora and fauna. “Llên Natur” publishes a monthly ebulletin.

Cymdeithas Edward Llwyd aims to promote and standardise the use of the Welsh language within its fields of interest. To date it has published four Directories of Species which cross-reference Welsh, English and scientific names.

The society’s tent at the Welsh National Eisteddfod includes a small exhibition of its activities and features a specific aspect of the natural world. Additionally, it provides a focal point for members and other interested parties on the Eisteddfod field. During Eisteddfod week the Society sponsors the annual Edward Llwyd lecture and arranges an Eisteddfod field trip.

Amdanon Ni

Cefndir

Sefydlwyd Cymdeithas Edward Llwyd yn 1978 gan y diweddar Dafydd Davies, Rhandirmwyn, fel cymdeithas i naturiaethwyr Cymru. Y mae yn rhoi cyfleoedd i’r aelodau werthfawrogi, mwynhau a dysgu am y byd o’u cwmpas a hynny drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Enwir y Gymdeithas ar ôl Edward Llwyd (1660 – 1709), naturiaethwr ag ysgolhaig; yn ei gyfnod cyfeiriwyd ato fel “y naturiaethwr gorau yn awr yn Ewrop”. Yr oedd ganddo ddiddordebau eang ac fe’i adnabyddir hefyd fel botanegydd, ieithydd, daearegydd, a hynafiaethwr. Y mae gweithgareddau’r Gymdeithas yn adlewyrchu diddordebau Edward Llwyd.

Teithiau Maes

Prif weithgaredd y Gymdeithas yw cynnal teithiau cerdded mewn gwahanol ardaloedd o Gymru a thrwy hynny rhoi cyfleoedd i’r aelodau ddod i adnabod eu gwlad yn well. Bydd pob un o’r gweithgareddau dan ofalaeth arweinydd sydd â diddordeb arbennig mewn gwahanol agweddau ar fyd natur a hanes Cymru. Trefnir teithiau mewn tri rhanbarth, Y De a’r Canolbarth, Y Gogledd Ddwyrain a Gwynedd a Môn. Cynhelir teithiau ar y Sadwrn ym mhob rhanbarth, bron gydol y flwyddyn.

Cylchgronau

Cyhoeddir dau gylchgrawn pob chwe mis; y Cylchlythyr a’r Naturiaethwr. Pwrpas y Cylchlythyr yw meithrin cysylltiad â’r aelodau a rhannu gwybodaeth am y teithiau a gweithgareddau eraill. Cyhoeddir erthyglau mwy swmpus am faterion yn ymwneud â byd natur yn y Naturiaethwr.

Llên Natur

Bas data ar lein yw Llên Natur, datblygiad a noddir gan y Gymdeithas, ceir cyfle i gofnodi pob agwedd o fywyd cefn gwlad a byd natur yn y bas data hwn. Mae gwefan Llên Natur yn agored i bawb ddarllen neu gyfrannu lluniau neu sylwadau am fyd natur yn ei holl agweddau. Cyhoeddir bwletin ar lein bob mis mae yn agored i bawb a gellir cael mynediad uniongyrchol neu trwy’r linc o’r wefan hon.

Tudalen Gweplyfr

Ar dudalen Gweplyfr [‘Facebook’] y Gymdeithas ceir gogwydd mwy cymdeithasol gyda lluniau a straeon am y teithiau diweddaraf – a’r aelodau! Mae’r rhif cod cyswllt ar gael yn y Cylchlythyr.

Safoni enwau a thermau

Mae’r Gymdeithas yn ceisio hybu a lledaenu’r defnydd o’r iaith Gymraeg ym mob agwedd o’r meysydd o ddiddordeb. I’r perwyl hwn sefydlwyd is-bwyllgor enwau a thermau i sicrhau fod geirfa Gymraeg ar gael i drafod enwau creaduriaid a phlanhigion. Cyhoeddwyd ffrwyth gwaith yr is-bwyllgor hwn mewn pedair cyfrol;

Creaduriaid Asgwrn-cefn – 1994Planhigion Blodeuol, Conwydd a Rhedyn -2003Gwyfynod, Gloÿnnod Byw a Gweision Neidr – 2009Ffyngau – 2016Casglu a chofnodi enwau gwenyn a chacwn fydd y dasg nesaf. Mae’r gwaith yma yn mynd rhagddo drwy gydweithrediad â Chanolfan Bedwyr Prifysgol Bangor, Y Porth Termau a Wicipedia Cymreig.

Gweithgaredd Arall

Cynhelir y Gynhadledd Flynyddol ar benwythnos ym mis Medi. Yn ystod y Gynhadledd trefnir darlithoedd a theithiau maes, yn ogystal â’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.Fe fydd y Gymdeithas yn paratoi pabell ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol pob blwyddyn. Ceir yno cyfle i gyflwyno ein gweithgaredd, cyfarfod aelodau, a chodi’r ymwybyddiaeth o’r Gymdeithas ymysg yr Eisteddfodwyr.Hefyd, yn achlysurol fe drefnir darlithoedd a nosweithiau cymdeithasol.

Rheolaeth a Statws

Rheolir y Gymdeithas gan y Pwyllgor Gwaith sydd yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn. Sefydlwyd nifer is-bwyllgorau ar gyfer gwaith penodol ee ‘enwau a thermau’. Y mae’r Pwyllgor Gwaith yn atebol i’r Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol, sydd yn gyfrifol am ethol swyddogion. Y mae enwau’r prif swyddogion ar gael ar y wefan hon.Y mae’r Gymdeithas yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1126027.