Addysg

Ysgol Rhos y Wlad, Bronnant

Ysgol Rhos y Wlad, Bronnant

Bu parch at addysg bob amser yng Nghymru. Yn yr Oesoedd Canol daeth mynachlogydd fel Ystrad Fflur yn ganolfannau gwleidyddol a gweinyddol pwysig, yn ogystal a sefydliadau addysgol. Roecid addysg yn golygu p*er a gwybodusrwydd, a rhoddwyd gwerth mawr arni.
Hyd at yr 2Ofed ganrif roedd ‘dynion hysbys’ yn gweithredu yn yr ardaloedd gwledig
dynion deallus, weithiau yn hunanaddysgedig, oedd yn medru darilen ac ysgrifennu ac a oedd wedi etifeddu corif o wybodaeth ar lafar 0 Ufl genhedlaeth i’r hail. Gaiwyd arnynt i wella afiechydon, i ddarganfod pobi a phethau coil, i godi meiltith rheibio ac weithiau i osod meiltith ar eraill. Roedd pobi yn eu hofni a’u parchu ar yr un pryd, ond byth yri eu herlid. Byddai eu ‘meddyginiaeth’ yn dod ar ffurf darn o bapur gyda geiriau arno yn Saesneg neu yn Lladin, ynghyd a symbolau cyfrin; cadwyd rhai ohonynt, ac maent i’w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol. Roedd ilawer o’r bobl gyifredin yn llythrennog yn y Gymraeg, ac ni fyddent yn defnyddio’r iaith honno ar y papur hud. Er hynny, roeddent yn dra llwyddiannus wrth gaei y canlyniad disgwyliedig, gan ddefnyddio pwerau seicig o bosibi, ac mae’n bur debyg mai ym meddwl y derbynnydd yr oedd pker y papur.

Dechreuodd addysg i’r werin yn gynnar yng Nghymru,ac roedd yma boblogaeth lythrennog erbyn y l8fed ganrif, diolch yn bennaf i ddyrnaid o unigolion goleuedig, offeiriaid Anglicanaidd oedd wedi troi oddi wrth yr Eglwys a dilyn crefydd anghydffurfiol. Dechreuodd y cyfan ym Mlaenpennal gydag un o’r rhain, pan sefydlodd Philip Pugh (1679—1760) o iferm yr Hendre ei ysgol a’i gapel ei hun yn ei gartref (gw. y bennod ar grefydd).
Roedd y gweinidogion anghydffurfiol yn cael addysg o’r radd uchaf mewn ‘academi’, wedi ei sefydlu yn ami yng nghartrefun arall o’r gweinidogion, fel un Philip Pugh. Roedd yr addysg yn cynnwys testunau fel Lladin, Groeg, Hebraeg a Saesneg, a rhoddid pwyslais mawr ar athroniaeth a diwinyddiaeth. Ers 1687 nid oedd anghydffurfiaeth yn anghyfreithlon, ond gwaharddwyd anghydffurfwyr o hyd rhag swyddi cyhoeddus ac addysg prifysgol.
Roedd gan fwyafrify capeli ysgolion, ac wrth i’r capeli amlhau roedd ysgolion hefyd yn amlhau a lledaenu. Eu prif nod oedd dysgu llythrennedd Beiblaidd, yn Gymraeg, ond roedd y rhan fwyaf hefyd yn dysgu mathemateg a Saesneg llafar. Yn ystod y 1730au dechreuodd Griffith Jones o Landdowror, offeiriad arall a disgybl i Philip Pugh, rwydwaith o ysgolion teithiol a ledaenodd yn gyflym trwy Gymru. Hyfforddai ei athrawon ei hun a’u danfon ble bynnag yr oedd galw a lleoliad addas. Dim ond yn y gaeaf y gweithredai’r ysgolion, gan fod angen y plant gartref i ffermio yn yr haf. Roedd ychydig o gost ynghlwm, gan y disgwylid i bob plentyn ddod a dogn o danwydd, tocyn bwyd ac weithiau geiniog at gyfiog yr athro, ond roedd hynny o fewn cyrraedd ilawer o’r werin bobi.