Y Llyfr

Mynydd Bach ei Hanes

 

Mae’r gyfrol “Mynydd Bach – ei Hanes”, a gyhoeddwyd yn ddwyieithog dan olygyddiaeth Eirian Jones yn2013, yn nodi’r allfudo mawr a fu o’r ardal i’r Unol Daleithiau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg,stori Rhyfel y Sais bach, dylanwad nifer o brifeirdd o’r ardal, hanes busnesau llwyddiannus hen a newydd, o wneuthurwyr sanau ddwy ganrif yn ol i gwmni rhyngwladol Dwr Ty Nant a sefydlu cartref Sali Mali ym Mhentre Bach yn ein dyddiau ni, yn ogystal a son am draddodiadau, diwylliant ac adeiladau’r ardal.

Yn cydredeg a’r testun gwelir llawer o hen luniau a gasglwyd gan drigolion lleol a lluniau trawiadol o’r tirlun gan y ffotograffydd Marian Delyth. Cyfrannodd dros gant o bobl i’r llyfr hwn, gan ei wneud yn brosiect gwir gymunedol, ac mae’r cynnwys yn cwmpasu pentrefi Blaenpennal, Bontnewydd (Blaenafon), Lledrod, Bronant, Penuwch, Bethania a Llangwyryfon.