Crefydd

Eglwys Dewi Sant, Blaenpennal

Eglwys Dewi Sant, Blaenpennal

Maetair egiwys hynafol wrth droed y Mynydd Bach. Mae egiwysi Liedrod a Llangwyryfon yn dyddio’n ôl i Oes y Saint, ac wedi eu ileoli o fewn muriau crwn, yn nhraddodiad yr Egiwys Geltaidd. Sefydiwyd egiwys Blaenpennal yn gyntaffel ‘capel’ dan ofal canolfan bwysig Dewi Sant yn Llanddewibrefi, fel adeilad bychan o bren a gwellt i ddechrau mae’n bosibi, ond yn yr un ileoliad â’r eglwys bresennol, sy’n dyddio o’r l9eg ganrif. Dilynwyd y canolfannau Cristnogol cynnar hyn gan adeiladau mwy cadarn a weinyddwyd gan Egiwys Rufain am ganrifoedd lawer, ond wedi’r Diwygiad Protestannaidd daethant yn rhan o Egiwys Loegr. Erbyn hyn mae’r Egiwys yng Nghymru yn annibynnol ar Egiwys Loegr, er ei bod yn rhan o’r gymuned Anglicanaidd. Cynhelir gwasanaethau wythnosol ym mhob un o’r eglwysi hyd heddiw.

Yn ystod y l8fed a’r l9eg ganrif roedd yr Egiwys Anglicanaidd yn amhoblogaidd iawn, oherwydd gweinidogaeth ddiffygiol a’r degwm afresymol a orfodwyd ar ffermwyr tlawd. Hyn yn bennaf a ysgogodd y twf cyflym mewn crefydd anghydffurfiol Gymreig, a gyfrannodd gymaint dros y ddwy ganrif ganlynol i ffurfio cymdeithas a diwylliant Cymru fel y maent heddiw.
Gosodwyd y sylfeini ar ddechrau’r l8fed ganrif gan Philip Pugh o Flaenpennal a Griffith Jones o Landdowror, dau offeiriad Anglicanaidd a sefydlodd ysgolion teithiol a newid cefn gwlad Cymru yn gymdeithas lythrennog.