Tai

Navy Hall, Bronnant

Navy Hall, Bronnant

Navy Hall, Bronnant (SN 63856815)

Yn ôl y cofnodion, codwyd y ty hwn yn 1747;  mae’n wahanol i’r tai eraill yn yr ardal am ei fod yn fwy sylweddol o ran deunyddiau a maint. Mae’r grisiau derw mawr gwreiddiol yn dal yno, ynghyd â phaneli pren yn un o’r ystafelloedd ar y llawr gwaelod, a lle tân a phentan mawr yn y llall. Ty cerrig yw hwn, wedi’i godi â cherrig cales drud o rywle y tu hwnt i’r ardal, ac mae iddo do llechi.

Pantffynnon, Trefenter

Pantffynnon, Trefenter

Pantffynnon, Trefenter (SN 61056864)

Bwthyn bach nodweddiadol yw hwn, a sgubor wrth ei ochr (ty hir). Nid yw’r cynllun gwreiddiol wedi newid mae rhan o bared pren ar draws yr ystafell waeiod yn arwain, I fyny grisiau cornel pren, dros yr hyn sy’n weddill o le tân â lwfer i’r unig ystafell ar y llawr cyntaf. Mae cyflenwad da o ddwr ffynnon gerllaw, sy’n awgrymu y gallai hwn fod yn safle hen drigfan.