Y Gymdeithas

CHB001.P031

Sefydlwyd Cymdeithas Hanes Blaenpennal yn 2011, i gofnodi hanes a diwylliant ardal Blaenpennal a Bontnewydd. Mae’r aelodau’n ymgynnull yn fisol i drafod agweddau ar hanes yr ardal, a gwahoddwyd nifer o siaradwyr i rannu gwybodaeth ac atgofion. Un o brif amcanion y Gymdeithas oedd cyhoeddi’r hanesion mewn llyfr ar gyfer cenedlaethau i ddod. Mae’r gyfrol “Mynydd Bach – ei Hanes”, a gyhoeddwyd yn ddwyieithog dan olygyddiaeth Eirian Jones yn2013, yn nodi’r allfudo mawr a fu o’r ardal i’r Unol Daleithiau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg,stori Rhyfel y Sais bach, dylanwad nifer o brifeirdd o’r ardal, hanes busnesau llwyddiannus hen a newydd, o wneuthurwyr sanau ddwy ganrif yn ol i gwmni rhyngwladol Dwr Ty Nant a sefydlu cartref Sali Mali ym Mhentre Bach yn ein dyddiau ni, yn ogystal a son am draddodiadau, diwylliant ac adeiladau’r ardal. Yn cydredeg a’r testun gwelir llawer o hen luniau a gasglwyd gan drigolion lleol a lluniau trawiadol o’r tirlun gan y ffotograffydd Marian Delyth. Cyfrannodd dros gant o bobl i’r llyfr hwn, gan ei wneud yn brosiect gwir gymunedol, ac mae’r cynnwys yn cwmpasu pentrefi Blaenpennal, Bontnewydd (Blaenafon), Lledrod, Bronant, Penuwch, Bethania a Llangwyryfon. Mae’r gyfrol ar gael oddiwrth y Gymdeithas a llyfrwerthwyr lleol am £15.00 + cludiant.

Mae’r Gymdeithas yn parhau gydag ymchwil pellach i rai o’r meysydd a gynhwyswyd yn y llyfr, a bydd yn cynnal cyfarfodydd i aelodau ym misoedd Medi, Hydref, Tachwedd, Chwefror, Mawrth, Ebrill a Mai, gyda thestunau amrywiol a siaradwyr gwadd ac o blith yr aelodau. Rydym yn ceisio recordio cyfarfodydd ar gyfer aelodau sy’n methu dod ar y noson ac ar gyfer archifau’r Gymdeithas. Yr ydym yn sefydliad gwirfoddol hunan-gynhaliol, nid er elw, ac felly yn dibynnu ar aelodau i wneud ymchwil a chofnodi yn y meysydd sy’n eu diddori, boed hynny yn hanes teuluol, agweddau ar ddiwylliant a thraddodiad, neu adeiladau yn yr ardal. Yna byddwn yn rhannu’r gwybodaeth a gesglir, gan fod ymchwil gan un aelod yn aml yn berthnasol i faes aelod arall. Eisoes mae gennym aelodau o du allan i’r ardal, yn cynnwys rhai yn Unol Daleithiau’r Amerig.

Rydym yn cynllunio tuag at ail-sefydlu Eisteddfod Blaenpennal yn 2016.

Os hoffech ymuno a ni (£5 y flwyddyn yw’r tanysgrifiad), llenwch y ffurflen isod os gwelwch yn dda a’i ddychwelyd i’r cyfeiriad ar ben y llythyr hwn, gyda’ch tal aelodaeth yn daladwy i Cymdeithas Hanes Blaenpennal.

c/o   Y Felin Fach, Blaenpennal, ABERYSTWYTH, Ceredigion, SY23 4TP

Telephone:  (01974) 251 231

Email: blaenpennal@fsmail.net

Security Code:
security code
Please enter the security code:

Cyflwyno