Gaeaf 1947

Ystyryr enw Liedrod yw ‘llethr yr od’ a phan ddaw’r eira ar em gwarthaf calif yr ystyr ei wireddu. Mae yna dair rhiw yn arwain allan o’r pentref: un lan am yr ysgol, un am Riwfallen a’r hail heibio Tynporth a’r eglwys. Mae byw mewn bro fel hon yn magu rhyw wytnwch arbennig sy’n o bobi y Mynydd Bach. Gwyddant sut i herio’r elfennau a thynnu gyda’i gilydd ar awr argyfwng. Felly roedd hi adeg gaeafhir 1947. Roeddwn i’n rhy ifanc i gofio’r gaeaf gerwin hwnnw, ond diolch i bobi fel Roland George a Mair Jenkins ac eraill am wybodaeth werthfawr.
Roedd y lluwchfeydd mewn mannau yn 10 troedfedd o uchder, gan gyrraedd y gwifrau teliffon. Byddai meibion a gweision ifermydd yn cael gorchymyn gan y Cyngor
Sir i greu llwybrau o dan gyfarwyddyd praif eu harolygwr Ileol. Yr arolygwr yn Liedrod oedd Richard Morgan, Bwlchgraig Isaf. Un o’r mannau gwaethaf am luwchfeydd (ac sy’n parhau felly) oedd copa rhiw Rhiwgwraidd cyn cychwyn lawr am Rosygarth. Cofia Roland am y gweithwyr yn adeiladu grisiau o’r eira ar dop Rhiwgraidd ac yna’n eu dringo er mwyn gwaredu’r eira o’r ifordd. Roedd ysbryd y gymdogaeth dda ar gerdded yn ardal y Mynydd Bach. Un o’r canolfannau prysuraf yn yr ardal oedd Siop Bronnant ile roedd R. 0. Williams, ei briod Emily á’i weithwyr wrthi’n ddygn yn ceislo diwallu anghenion drwy bobi bara