Adeiladau

Y Felin Fach, Blaenpennal

Y Felin Fach, Blaenpennal

Yn adeiladau’r Mynydd Bach gwelwn gofnod o sgiliau ‘r adeilladwyr yn ogystal â hanes trigolion yr ardal a’u ffordd o fyw, ac maent yn dangos bod y rhan fwyaf o’r trigolion yn gorfod byw’n gynnil ar incwm gweddol fach.

Roedd yn rhaid i’r pentrefi fod yn hunangynhaliol, fel y tystia’ r amrywiol fasnachwyr oedd yn gweithio yno, yn eu plith ffermwyr, gofaint, seiri, melinwyr, cynhyrchwyr brethyn a ffelt, teilwriaid, awthrawon, gweinidogion, gwneuthurwyr nwyddau lledr, adeiladwyr, chwarelwyr a phorthmyn.

Dywedir weithiau mai’r capel (neu’r eglwys) a’r felin oedd adeiladau pwysicaf y pentref. Rhoddai’r capel gynhaliaeth i’r enaid drwy weddi a chân, a’r felin gynhaliaeth i’r corff drwy roi iddo flawd a dillad.

Mewn ysgrif fer fel hon, ni allaf ond sôn am rai o adeiladau’r Mynydd Bach.

Y tai unnos oedd yr adeiladau mwyaf adnabyddus yn yr ardal – tai a gâi eu hadeiladu mewn un noson, fel yr esboniwyd yn y bennod flaenorol. Mae’n bosibl bod rhai tai diweddarach wedi’u codi ar safle’r tai unnos hyn. Byddai angen cyflenwad dr glân ar y trigolion cynnar, ac felly byddai adeiladau’n cael eu codi ger ffynhonnau dwr; yn ôl pob sôn, roedd gan rai ffynhonnau sanctaidd rym iacháu.