Hanes Cynnar

Garn Wen - Mynydd Bach - John Pocklington

Garn Wen – Mynydd Bach

Hanes Cynnar – Y Dynion Cyntaf – D Geraint Lewis

Hafod Ithel yw enw’r man uchaf ar y Mynydd Bach ac yn yr 20fed ganrif fe gododd dynion yr Arolwg Ordnans golofn fach, sef trig point, i nodi hyn. Ond 4,000 o flynyddoedd cyn hyn, yr oedd dynion eraill wedi codi cofeb lawer mwy ei maint yn uchel ar y Mynydd Bach, sef y pentwr o gerrig a elwir yn ‘Garn Wen’. Dyma galon y Mynydd; o’r fan hon geilir gweld y Mynydd Mawr, sef y mynydd-dir uwch Tregaron, ardal Elenid, Soar y Mynydd a llwybr y porthmyn at Abergwesyn draw. Eto, er mor uchel ydyw, ni welir Garn Wen o’r llyn na’r heol a red ar draws y Mynydd; lle dirgei yw yng nghanol unigeddau’r rhostir. Mae’r garnedd yn ddigon mawr inni ryfeddu ati heddiw, ond gwyddwn, dros filoedd o flynyddoedd, fod llawer o’r cerrig gwreiddiol wedi cael eu defnyddio at adeiladu yn yr ardal ac eraill wedi caei eu herydu a’u chwaiu gan y gwynt a’r glaw. Gweiir o hyd o fewn y garnedd y sgwaryn lle cafwyd hyd i lestr clai arbennig, dros lathen o uchder, lle rhoddwyd gweddillion corff oedd wedi cael ei losgi. Ni wyddys heddiw pwy gafodd ei gladdu yma ond rhaid ceisio dyfalu pa fath o arweinydd fyddai’n teilyngu’r fath gasglu ynghyd ac adeiladu. Mae sôn am carneddau llai yn ardal y Mynydd Bach ond mae’r buil rhain wedi diflannu bob un erbyn heddiw…….….

Cist Garn Wen Mynydd Bach - John Pocklington

Cist,Garn Wen –  Mynydd Bach