Cyfarfod Mehefin 22

Ar nos Fercher Mehefin 22ain cynhaliwyd cyfarfod yn Ysgubor Ffos yr Odyn, lle daeth 24 o bobl
ynghyd i drafod ail-ddechrau Cymdeithas Hanes Blaenpennal ym mis Medi a’r ffordd ymlaen i’r
Gymdeithas yn y dyfodol. Ar gyfer y rhai sy’n newydd i’r ardal rhoddwyd crynodeb o’n
gweithgaredd hyd yma yn sefydlu’r Gymdeithas, cyhoeddi llyfr “Mynydd Bach, Ei Hanes – It’s
History” a’n llyfryn o “Atgofion Nadolig a Risetiau”, a’r grwpiau gwella Cymraeg, ynghyd a
gweithgareddau eraill fel cefnogaeth Covid, gwasanaeth band eang a ffôn, a darparu peiriant
“defibrillator”. Bydd y tanysgrifiad blynyddol yn aros ar £5 y pen.

 

Cynigiwyd nifer o syniadau ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol, a bydd y pwyllgor yn trafod rhain a threfnu rhaglen.

Cafwyd adloniant cerddorol gan Jez Danks ar y ffidil, ac yr oedd pawb wedi mwynhau mas draw.

Diolch yn fawr i Chris a Michele Pope am ddarparu’r lleoliad ac agor y bar i hyrwyddo’r cymdeithasu.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .