Cymdeithas Hanes Blaenpennal
Cynhelir y Cyfarfod nesaf am 7.30 pm Nos Fercher , 14 Chwefror 2018
Yn Caffi Sali Mali, Pentre Bach, Blaenpennal
Helpwch y Llyfrgell Genedlaethol i ‘Ddatgloi Hanes Cuddiedig y Rhyfel Mawr’
Am ragor o fanylion cysylltwch â Andrew Findon
(Y Felin) ar 01974-251231 neu blaenpennal@gmail.com
Annwyl Ysgrifennydd Cymdeithas Hanes Blaenpennal,
Ysgrifennaf atoch i’ch gwahodd i fod yn rhan o brosiect cyffrous fydd yn dod â rhan o dreftadaeth guddiedig y Rhyfel Byd Cyntaf sy’n cael ei chadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) yn fyw i bobl Cymru a’r byd.
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi derbyn cymorth ariannol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i gyflwyno prosiect sy’n canolbwyntio ar Gofnodion Tribiwnlysoedd y Rhyfel Mawr Sir Aberteifi. Y rhain oedd y tribiwnlysoedd oedd yn ymdrin ag apeliadau yn erbyn gorfodaeth i fynd i’r rhyfel, am resymau personol, economaidd, moesol neu grefyddol.
Yn 1921, gorchymynnodd y Llywodraeth y dylid dinistrio cofnodion y tribiwnlysoedd; serch hynny, goroesodd cofnodion Sir Aberteifi. Erbyn hyn mae’r archif yn un hollol unigryw yng Nghymru, ac yn un o’r ychydig o’i math sy’n bodoli yn y Deyrnas Unedig.
Bydd ein prosiect yn galluogi gwirfoddolwyr i ddefnyddio adnodd ar-lein, a ddatblygwyd yn ddiweddar gan LlGC, i drawsgrifio a mynegeio’r cofnodion fel bod modd eu chwilio yn ôl enw, cyfeiriad, dyddiad, ayb.
Bydd staff a rhai o wirfoddolwyr LlGC yn ymweld â chi i rannu hanes y cofnodion ac i gynnig hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r adnodd ar-lein. Bydd cyfle hefyd yn ystod y sesiynau gwybodaeth i rannu a chofnodi hanesion lleol ar lafar am y Rhyfel Mawr.
Bydd yr adnodd gorffenedig ar gael ar wefan LlGC i ymchwilwyr, haneswyr teulu ac i un rhywun sy’n ymddiddori yn nhreftadaeth y Rhyfel Mawr.